Back

Covid-19 Statement from Theatr Mwldan

Mwldan re-opening Friday September 3rd  / Y Mwldan yn ailagor ar 3ydd Medi
 

Diweddarwyd Mehefin / Updated June 2021

**Neges ddwyieithog yw hon – gweler y fersiwn Saesneg isod / This is a bilingual message – please scroll down for English**


 

Diweddariad gan Dilwyn Davies, Prif Weithredwr, gan gynnwys canlyniadau'r arolwg diweddar

Rwy'n gobeithio eich bod chi i gyd yn ddiogel ac yn iach ac yn mwynhau dyfodiad yr haf. Er nad ydym eisiau anfon gormodedd o negeseuon e-bost a newyddion atoch, mae rhai pethau pwysig yr hoffem rannu gyda chi nawr am ein llwybr tuag at ailagor yma yn y Mwldan. Fel rydym wedi dweud o'r blaen, rydym am ddilyn y llwybr hwn mewn cydweithrediad â chi, ein cynulleidfa a'n cymuned, a'ch sicrhau y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud eich dychweliad i’r Mwldan mor ddiogel a phleserus â phosibl.

 

Yn gyntaf, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r newyddion gwych ein bod wedi llwyddo yn ein cais diweddar i ail rownd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru (CRF2) trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r CRF yn arian i gefnogi sefydliadau celfyddydol trwy'r pandemig, a gellir ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg y cwmni a fyddai, yn ein hachos ni, fel arall wedi cael eu talu gan ein gweithrediadau ac incwm a enillir tra'n bod ar agor o dan amgylchiadau arferol.


Golyga hyn y gall ein tîm staff  sydd i gyd, ond am un, wedi bod ar ffyrlo nawr ddod yn ôl i'r gwaith yn llawn amser tan ddiwedd mis Medi. Mae hefyd yn golygu y gallwn  fwrw ymlaen nawr â rhestr hir o dasgau technegol, cynnal a chadw a gweinyddol hanfodol y mae'n rhaid i ni eu cwblhau cyn i ni ailagor i'r cyhoedd.

 

Felly, rydym wrth ein bodd ac yn llawn cyffro ein bod o'r diwedd yn edrych ymlaen at ddyddiad pan allwn ailagor gweithrediadau.


Rydym hefyd wedi bod yn brysur dros fisoedd y gaeaf yn rhoi tipyn o weddnewidiad i'n cyntedd i'w wneud yn fwy croesawgar ac yn ddiogel o ran COVID. Ni allwn aros i chi ei weld!

 

Hefyd, hoffem ddiolch yn fawr iawn i'r rhai ohonoch (mwy na 400 o gartrefi) a gymerodd yr amser i gwblhau ein harolwg cynulleidfa diweddaraf. Mae'r canlyniadau yn ein helpu’n fawr iawn wrth wneud penderfyniadau hollbwysig ynghylch pryd, a sut, i ailagor a'ch croesawu yn ôl yn ddiogel. Gan fod cymaint ohonoch wedi cymryd yr amser i'n helpu, hoffem rannu rhai o'r canfyddiadau allweddol gyda chi:

 

Mae 96% o'r ymatebion yn fynychwyr rheolaidd (2 waith neu fwy y flwyddyn)

Mae 82% yn 45 oed neu'n hŷn

Mae 76% yn ystyried nad ydynt yn agored i niwed mewn perthynas â Coronafeirws

Mae 60% o'r ymatebwyr wedi derbyn dau brechiad coronafeirws, ac mae 35% arall wedi derbyn un brechiad

Ar hyn o bryd nid yw 56% o’r ymatebwyr wedi archebu tocynnau ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau diwylliannol

O'r rhain, mae 45% o’r ymatebwyr yn dal i osgoi torfeydd ar hyn o bryd, ac mae 43% yn dweud eu bod am fod yn hyblyg yn eu penderfyniad i archebu tocynnau

Mae 56% o'r ymatebwyr yn dweud y byddant yn dechrau archebu tocynnau neu gynllunio ar gyfer digwyddiadau o fewn y tri mis nesaf; nid yw 20% arall yn siŵr pryd, ac mae 22% yn credu y bydd yn 3 mis neu fwy

Mae 43% yn dweud y byddant yn mynychu digwyddiadau pan fyddant yn ddigon hyderus bod mesurau diogelwch ar waith, ac mae 28% yn dweud eu bod yn gyffyrddus yn mynychu nawr

Roedd mwyafrif helaeth o’r ymatebwyr yn dweud bod ganddynt hyder y bydd y Mwldan yn cadw cynulleidfaoedd, perfformwyr a staff yn ddiogel, y bydd y Mwldan yn rhoi gwybod i gynulleidfaoedd ynghylch beth i'w ddisgwyl, ac y byddwn yn gorfodi cadw pellter cymdeithasol a mesurau diogelwch eraill pan fyddwn yn ailagor.

Mae ymatebwyr o'r farn bod y mesurau diogelwch canlynol naill ai'n dderbyniol neu'n hanfodol: seddi wedi’u pellhau’n gymdeithasol (94%), llifau unffordd o bobl (95%), sgrinio tymheredd wrth gyrraedd (93%), gorchuddion wyneb trwy'r lleoliad (82%) .

Roedd niferoedd sylweddol yn anghysurus ynglŷn â gofyniad am basbort brechu a phrofion COVID i ganiatáu mynediad; dim ond 8% a 5% yn y drefn honno a ddywedodd y byddai'r mesurau hyn yn hanfodol er mwyn iddynt fynychu.


O'r canlyniadau hyn, credwn ein bod yn agosáu at amser pan allwn ailagor, ar yr amod bod gennym rai mesurau diogelwch allweddol ar waith, a amlinellir uchod fel rhai sy'n ddymunol gan fwyafrif sylweddol ein harolwg. Bydd hyn ar ôl i ni gwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol sy’n weddill, ac wedi paratoi'r adeilad a'n rheoli gweithrediadau ar gyfer profiad diogel a difyr. Rydym hefyd eisiau agor ar adeg pan nad oes gennym lefelau o alw gan gwsmeriaid sy'n llawer yn uwch nag yr ydym yn teimlo y gallem ymdopi â nhw’n ddiogel.


Felly, rydym yn anelu at ailagor ar gyfer sinema yn unig ar ddydd Gwener 3 Medi 2021, gyda digwyddiadau byw yn dilyn tua diwedd mis Medi. Ailagor yn raddol fydd hwn yn seiliedig ar weithredu rhan-amser i ddechrau gan y bydd yn cymryd peth amser i ni adeiladu'n ôl i'n lefel o weithredu cyn-COVID. Bydd y dyddiadau hyn hefyd yn dibynnu ar gynnydd parhaus gyda'r rhaglen frechu, canllawiau Llywodraeth Cymru a lefelau isel o amrywiolynnau COVID-19 yn ein cymuned.

 

Diolch eto am eich holl gymorth a chefnogaeth. Ni allwn aros i'ch croesawu yn ôl ... yn ddiogel.

 

||||||||||

An update from Dilwyn Davies, CEO, including recent Survey Results

 

I do hope you’re all safe and well and enjoying the arrival of summer. Whilst we don’t want to overload you with emails and news, there are a few important things we’d like to now share with you about our path to reopening here at Mwldan. As we have said before, we want to take this path in collaboration with you, our audience and community, and to reassure you that we will do everything we can to make your return to Mwldan as safe and enjoyable as possible.

 

Firstly, I’m delighted to announce the wonderful news that we have been successful in our recent application to the second round of the Welsh Government’s Cultural Recovery Fund (CRF2) via Arts Council of Wales. The CRF is money to support arts organisations through the pandemic and can be used to cover the costs of running the company that, in our case, would otherwise have been covered by our operations and earned income whilst open under normal circumstances.

 

This means that our staff team – all but one of whom have been on furlough – can now be brought back to work full time until the end of September. It also means that we can now get on with a long list of essential technical, maintenance and administrative jobs that we must complete before we reopen to the public.

 

So, we are delighted and very excited to be finally looking forward to a date when we can reopen operations.

 

We have also been busy over the winter months giving our foyer a big makeover to make it both more welcoming and COVID-safe. We can’t wait for you to see it!

 

We would also like to say a huge thank you to those of you (more than 400 households) who took the time to complete our most recent audience survey. The results are of enormous help to us in making all-important decisions about when, and how, to reopen and welcome you back safely. As so many of you have taken the time to help us, we would like to share with you some of the key findings:

 

96% of responses are regular attenders (2 or more times per year)

82% are aged 45 or over

76% consider themselves not vulnerable in relation to Coronavirus

60% of respondents have received two Coronavirus vaccinations, and a further 35% have received one vaccination

56% of respondents are not currently booked for any cultural events

Of these, 45% of respondents are still presently avoiding crowds, and 43% say they want to be flexible in their decision to book

56% of respondents say they will start booking or planning for events within the next three months; a further 20% are not sure when, and 22% think it will be 3 months or more

43% say they will attend events when they are sufficiently confident of safety measures being in place, and 28% say they are comfortable attending now

A large majority of respondents say that they have positive confidence that Mwldan will keep audiences, performers and staff safe, that Mwldan will keep audiences informed about what to expect, and that we will enforce social distancing and other safety measures when we do open

Respondents consider the following safety measures to be either acceptable or essential: socially distancing seating (94%), one-way flows of people (95%), temperature screening on arrival (93%), face coverings throughout the venue (82%).

There were significant numbers uncomfortable about a requirement for a vaccine passport and COVID testing to allow entry; only 8% and 5% respectively said these measures would be essential for them to attend.

 

From these results, we believe that we are nearing a time when we can reopen, provided we have some key safety measures, outlined above as being desirable by a large majority of our survey, in place. This will be after we have completed essential outstanding maintenance, and we have prepared the building and our operations management for a safe and enjoyable experience. We also want to open at a time when we do not have levels of customer demand that are much greater than we feel we could cope with safely.

 

Therefore, we are aiming to reopen for cinema only on Friday 3 September 2021, followed by live events towards the end of September. This will be a phased reopening based on a part-time operation initially as it will take us some time to build back up to our pre-COVID level of operations. These dates will be also dependent on continued progress with the vaccination programme, Welsh Government guidelines and low levels of COVID-19 variants in our community.

 

Thank you again for all your help and support. We can’t wait to welcome you back… safely.

 

 

CWESTIYNAU CYFFREDIN / FREQUENTLY ASKED QUESTIONS



1. A allaf ffonio'r swyddfa docynnau?
Mae llinell ffôn y swyddfa docynnau wedi cael ei chau dros dro, felly ni fyddwch yn gallu cysylltu â ni dros y ffôn. Fodd bynnag, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at boxoffice@mwldan.co.uk. Byddwch yn amyneddgar gyda ni gan ein bod ar hyn o bryd yn gweithredu ar gapasiti sylweddol is, a byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn.

1. Can I speak to someone at the box office?
Our box office phone line has been closed temporarily so you won’t be able to contact us by phone, however you can get in touch by email on boxoffice@mwldan.co.uk. Please bear with us as we are currently operating at significantly reduced capacity but we will respond as soon as we are able.


2. Mae'r sioe yr wyf wedi archebu tocynnau ar ei chyfer wedi cael ei gohirio, beth ddylwn ei wneud?
Bydd eich tocyn yn cael ei ail-archebu'n awtomatig ar gyfer y dyddiad newydd a byddwn yn cysylltu â chi yn uniongyrchol i roi gwybod i chi am ddyddiad newydd y sioe (sylwch, bydd angen i ni ailystyried y trefniadau eistedd i sicrhau cadw pellter cymdeithasol a byddwn mewn cysylltiad yn agosach at yr amser i gynghori ar hyn). Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol ar y dyddiad newydd, anfonwch e-bost at boxoffice@mwldan.co.uk gan nodi enw'r sioe, eich rhif archebu gwreiddiol neu enw llawn y person a archebodd y tocynnau a byddwn yn cysylltu â chi i drafod cyfnewid tocynnau neu opsiynau ad-dalu pan fydd y swyddfa docynnau ar agor eto.


2. A show or screening I have booked for has been postponed, what should I do?
Your ticket will be automatically re-booked for the new date (please note that it will be necessary for us to revisit the seating arrangements to ensure social distancing and we will be in touch closer to the time to advise on this) and we will contact you directly to advise you of the new show date. If you’re unable to attend, please send an email to boxoffice@mwldan.co.uk stating the name of the show, your original booking number or full name of the person who booked the tickets and we will contact you to discuss credit or refund options as soon as we are able.
 

3. Mae fy sioe wedi ei gohirio, ond mae gen i'r tocynnau eisoes gyda'r dyddiad gwreiddiol.
Cadwch eich tocynnau'n ddiogel oherwydd bydd y rhain yn parhau i gael eu derbyn ar gyfer y dyddiad newydd. Os ydych wedi prynu'ch tocynnau ar-lein bydd y ddolen docynnau yn adnewyddu'n awtomatig gyda'r dyddiad newydd. Os oes eisoes gennych docynnau papur wedi’u printio gan y Mwldan, bydd angen i chi gasglu tocynnau newydd gyda'r dyddiad newydd arnynt. Gellir gwneud hyn ar unrhyw adeg cyn dyddiad y perfformiad newydd ar ôl i'r lleoliad ailagor i'r cyhoedd. Os gwnaethoch brynu tocynnau ar-lein neu dros y ffôn, bydd yr e-docyn a anfonwyd atoch yn dal i fod yn ddilys (bydd y ddolen a anfonwyd atoch yn adnewyddu yn awtomatig gyda'r dyddiad newydd, felly bydd angen i chi lawrlwytho'ch tocyn eto o'r ddolen yn eich e-bost cadarnhau archeb wreiddiol).

3. My show or screening has been postponed, but I already have the tickets with the original date.
If you already have physically printed tickets from Mwldan, you will need to collect replacements tickets with the new date on. This can be done at any time prior to the new performance date after the venue reopens to the public. If you purchased tickets online or over the phone, the e-ticket you were sent will still be valid (the link you were sent will automatically refresh with the new date, so you will just need to re-download your ticket from the link in your original email booking confirmation).



4. Mae’r sioe yr wyf wedi archebu tocynnau ar ei chyfer wedi cael ei chanslo, beth ddylwn ei wneud?
Bydd pob cwsmer yn derbyn ad-daliad llawn neu nodyn credyd a byddwn yn cysylltu â chi i drefnu hyn. Byddwch yn amyneddgar gyda ni, gallai gymryd peth amser i ni brosesu'r ad-daliad oherwydd bod llai o staff gennym yn gweithio, ond gallwch fod yn sicr y byddwn yn prosesu unrhyw ad-daliadau/nodiadau credyd sy'n ddyledus.

4. A show I have booked for has been cancelled, what should I do?
All customers will receive a full refund or credit note for use against a future show or screening and we will contact you to arrange this.  Pease bear with us, it could take us some time to process the refund due to our reduced staffing, but please be reassured that we will be processing any refunds/credit notes due.
 

5. Beth ddylwn ei wneud os yw fy nhocynnau ar gyfer perfformiadau yn y dyfodol?
Peidiwch â chysylltu â ni os ydych wedi archebu tocynnau ar gyfer perfformiadau yn hwyrach yn y flwyddyn, ond gallwn eich sicrhau os bydd perfformiadau yn y dyfodol yn cael eu canslo neu eu gohirio, byddwn yn cysylltu'n â chi’n uniongyrchol. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n ofalus ac yn adolygu unrhyw newidiadau yn ôl yr angen a byddwn yn cysylltu yn uniongyrchol ag unrhyw gwsmeriaid yr effeithir arnynt.

5. What shall I do if I have booked tickets for performances or screenings from here on in?
Please do not get in touch with us if you have booked for performances later in the year, but be reassured that if future performances are cancelled or postponed, we will contact you directly. We are closely monitoring the situation and will contact any affected customers directly as any necessary changes to the programme occur.
 

6. Pa mor fuan byddaf yn cael ad-daliad?
Os cafodd eich tocynnau eu prynu gyda cherdyn credyd neu ddebyd byddwn yn ymdrechu i brosesu'ch ad-daliad cyn gynted â phosibl. Os cafodd eich tocynnau eu prynu drwy unrhyw ddull talu arall (arian parod, siec ac ati) yna byddwn yn cysylltu â chi yn fuan i drefnu eich ad-daliad cyn gynted ag y bydd llinell ffôn ein swyddfa docynnau ar agor eto - gall hyn fod mewn ychydig wythnosau whilst restrictions remain in place.
 
6. How soon will I get my refund?
If your tickets were purchased with a credit or debit card we will endeavour to process your refund as soon as possible. If you purchased tickets via any other payment method (cash, cheque, etc) then we will be in touch with you shortly to arrange your refund as soon as our box office phone line is operational again – this may be in a few weeks whilst restrictions remain in place.
 

7. Archebais fel rhan o grŵp ac nid yw'r dyddiad newydd yn gyfleus i ni gyd ddod yn ôl?
Gallwn drefnu ad-daliad i'r rhai yn y grŵp nad ydynt yn gallu bod yn bresennol.

7. I booked as part of a group and a new date isn’t convenient for us all to attend?
We can arrange a refund for those in the group who are unable to attend.



8. A oes modd archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol?
Gallwch archebu tocynnau ar gyfer holl sioeau Mwldan drwy ein gwefan mwldan.co.uk 

8. Can I still book tickets for future events?
You can book tickets for all Mwldan shows later in the year through our website mwldan.co.uk



 

 

Top
C