Back

John le Carré - An Evening with George Smiley

Yn fyw o Neuadd Ŵyl Frenhinol Llundain, ymunwch â ni mewn dathliad unigryw o waith John le Carré wrth iddo drafod rhychwant eang ei yrfa, ac yn myfyrio ar stori barhaus ei greadigaeth fwyaf enwog, yr ysbïwr boliog tew mewn sbectol, George Smiley.

Yn cynnwys darlleniadau o’i nofel newydd A Legacy of Spies, a sesiwn holi ac ateb prin, bydd hwn yn gyfle arbennig i brofi’r awdur yn uniongyrchol a drwy ei eiriau ei hun.

I’r rhai ni all gyrraedd Southbank Llundain, caiff y digwyddiad ei ddarlledu’n fyw i sinemâu ar draws y DU ac Ewrop.

 

Er budd Médecins Sans Frontières / Meddygon heb ffiniau (MSF).

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top