Back

Met Opera: Madama Butterfly (Puccini)

BROADCAST EVENT

Dychwela llwyfaniad hynod sinematig Anthony Minghella o stori Puccini am gariad nas dychwelir at ein sgriniau gan serennu’r soprano Hui He yn y brif ran ddinistriol.

Un o operâu mwyaf poblogaidd ein cenhedlaeth, mae Madama Butterfly yn dilyn stori merch ifanc Japaneaidd, Cio-Cio San, sy’n syrthio mewn cariad â Pinkerton, swyddog llynges Americanaidd. Mae yna drasiedi yn y cynhyrchiad hwn, sy'n ffefryn byth a beunydd gan y gynulleidfa. Pier Giorgio Morandi sy’n arwain un o sgorau mwyaf cain a thorcalonnus byd opera. Paul Szot sy'n canu Sharpless ac yn ymuno ag ef mae cast sydd hefyd yn cynnwys y tenor Piero Pretti fel Pinkerton, a’r fezzo-soprano Elizabeth DeShong fel Suzuki.

 

Bydd Idris Rees y cerddor proffesiynol, athro ac edmygwr opera yn ail-ddechrau’r sesiynau sgwrsio cyn y sioe ar gyfer y tymhorau Opera newydd ac mae ganddo hyn i’w ddweud am yr hyn sydd i ddod….

"Mae Madame Butterfly yn opera drasig ac yn gorffen gyda dynes ifanc arall yn marw - yn yr achos hwn mae’n cyflawni hunanladdiad oherwydd bod ei hanrhydedd wedi cael ei llychwino gan forwr ifanc o America. Mae’n opera hyfryd iawn, yn llawn gobaith a dyhead am weld tad ei phlentyn eto. Caiff y cyfan ei ddinistrio gan ymddangosiad ei wraig Americanaidd."

Sgyrsiau cyn y sioe yn yr oriel gelf 6.15yh.

 

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top