Back

Met Opera: Turandot (Puccini)

BROADCAST EVENT

Dychwela cynhyrchiad syfrdanol Franco Zeffirelli i sinemâu gyda Christine Goerke, y soprano a chanddi lais nerthol yn cymryd y brif ran,  sef y Dywysoges finiog, yn benderfynol o beidio byth â chael ei meddiannu gan ddyn.

Mae Calaf, cariadfab anhysbys sy’n cael ei chwarae gan y tenor Roberto Aronica, sy’n canu’r aria enwog “Nessun dorma”, yn gwirioni ar y Dywysoges oeraidd, gan dyngu peryglu ei fywyd wrth geisio ateb y tri phos heriol sy’n addo datgloi ei chalon. Yannick Nézet-Séguin, Cyfarwyddwr Cerddorol y Met, sy’n arwain y cynhyrchiad grymus hwn am gariad, colled a ffyddlondeb.

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top