Back

Met Opera: Wozzeck (Berg)

LIVE BROADCAST

Ar ôl syfrdanu cynulleidfaoedd gyda’i gynhyrchiad rhyfeddol o Lulu yn 2015, mae’r artist o Dde Affrica William Kentridge bellach yn canolbwyntio ei ddychymyg gweledol eithriadol ar gampwaith operatig arall Berg, wedi ei osod mewn amgylchedd apocalyptaidd cyn y Rhyfel Byd cyntaf.

Cyfarwyddwr Cerddorol y Met Yannick Nézet-Séguin sydd ar y podiwm ar gyfer y digwyddiad pwysig hwn, gyda’r bariton Peter Mattei yn gwneud ei début yn rôl y prif gymeriad. Y soprano Elza van den Heever yw cymar anffyddlon Wozzeck, ac mae’r cast hefyd yn cynnwys y tenor Christopher Ventris fel y Drum-Major, y bas-bariton Christian Van Horn fel y Doctor, a’r tenor Gerhard Siegel fel y Capten.

£16 (£15)

102 Munud

Browse more shows tagged with:

Top