Back

NT Live: Small Island (15)

Mae Small Island yn dilyn hynt siwrnai o Jamaica i Brydain, trwy’r Ail Ryfel Byd i 1948 - y flwyddyn dociodd yr Empire Windrush yn Tilbury. Mae’r ddrama’n dilyn tair stori sy’n cysylltu’n gymhleth. Mae Hortense yn ysu am fywyd newydd i ffwrdd o gefn gwlad Jamaica. Mae Gilbert yn breuddwydio am fod yn gyfreithiwr, ac mae Queenie yn awyddus i ddianc o’i gwreiddiau yn Swydd Lincoln. Mae gobaith a dynoliaeth yn cwrdd â realaeth ystyfnig wrth i’r ddrama olrhain hanes cymhleth Jamaica a’r DU. Daw criw o 40 o actorion i lwyfan y National Theatre yn y stori amserol a thrawiadol hon.

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top