Back

NT Live: A View From The Bridge (12A) Encore

DIGWYDDIAD 'ENCORE' DARLLEDU BYW MEWN DIFFINIAD UCHEL WEDI SGRINIO TRWY LOEREN O NATIONAL THEATRE LLUNDAIN AR 26 MAWRTH 2015

Peidiwch â cholli cast serol wedi ei arwain gan Mark Strong (The Imitation Game; Tinker, Tailor, Soldier, Spy) yng nghynhyrchiad ‘magnetig, trydanol, hynod eofn’ y Young Vic o A View from the Bridge – hoff ddewis theatr 2014 yr Evening Standard, Guardian a’r Independent. Mae Arthur Miller yn wynebu’r freuddwyd Americanaidd yn y stori dywyll ac angerddol hon. Ym Mrooklyn, mae gŵr y glannau Eddie Carbone yn croesawu ei  gefnderoedd o Sisili i wlad rhyddid. Ond pan mae un ohonynt yn syrthio mewn cariad â’i nai prydferth, maent yn darganfod bod pris ynghlwm wrth ryddid. Mae drwgdybio cenfigennus Eddie yn amlygu cyfrinach ddofn, annisgrifiadwy - un sy’n ei yrru i gyflawni’r brad eithaf. Y gweledigaethol Ivo van Hove sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad syfrdanol hwn o gampwaith trasig Miller, wedi ei ddarlledu’n fyw o West End Llundain gan y National Theatre Live.

★★★★★ 'Magnetic, electrifying, astonishingly bold' - Evening Standard★★★★★ 'Emotionally devastating. Unforgettable' - Independent★★★★★ 'Grips like a thriller' - Mail on Sunday★★★★★ 'One of the most powerful productions of a Miller play I have ever seen' - Daily Telegraph

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top