Back

Oscar Wilde LIVE: An Ideal Husband (12A)

Darlledir cynhyrchiad newydd o gomedi Oscar Wilde, An Ideal Husband yn fyw i sinemâu o Theatr Vaudeville yn West End Llundain. Yn ddrama amserol difyr, daw â phechod gwleidyddol i galon yr aelwyd Seisnig. Fel gweinidog uchelgeisiol y llywodraeth, mae pendantrwydd ynghylch esgyniad didrafferth Sir Robert Chiltern i’r brig, hyd nes i Mrs Cheveley ddod i Lundain gyda phrawf damniol o’i dwyll ariannol blaenorol. Dyma’r drydedd ddrama yn Nhymor Oscar Wilde, dathliad blwyddyn o waith y dramodwr campus gan Gwmni Theatr Classic Spring.
£15 (£14)

Browse more shows tagged with:

Top