Back

ROH: Don Giovanni

Cyfaredd rywiol, cenfigen, ffraethineb, dicter… a dial! Mae tymor newydd y Royal Opera yn cychwyn gyda champwaith gafaelgar Mozart, sy’n dilyn Don Giovanni, y merched mae’n eu denu yn eu tro, a’r dial sy’n ei faglu yn y pendraw. Mae’r opera’n enwog am ei phortreadau o gymeriadau cymhleth, cyffro sionc a’r gymysgedd o’r digrif a’r theimladwy. Mae cast o gantorion rhyngwladol - rhai cyfarwydd a rhai sy’n gwneud eu début gyda’r Royal Opera - o dan yr arweinydd Hartmut Haenchen yn perfformio’r ariâu a’r ensembles gogoneddus yn yr opera boblogaidd hon.

 

Bydd Idris Rees y cerddor proffesiynol, athro ac edmygwr opera yn ail-ddechrau’r sesiynau sgwrsio cyn y sioe ar gyfer y tymhorau Opera newydd ac mae ganddo hyn i’w ddweud am yr hyn sydd i ddod….

"Felly beth sydd gennym i gynnig am £16.00 [nid £70, £80 neu hyd yn oed £200] y perfformiad? Yn gyntaf, mae gennym ddwy farn wahanol ar weithgareddau Don Juans y byd hwn. Y dyngarwyr, y merchetwyr sydd wedi bod yno erioed ac sydd yno o hyd. Mae yna un sydd yn gyson yn y newyddion ac yn datgan nad oedd dynion i fod yn ffyddlon i un fenyw yn unig, trueni ei fod yn cario'r athroniaeth honno i'w wleidyddiaeth hefyd. Boed hynny fel y bo, yn gyntaf mae gennym Mozart gyda'i Eidalwr Don Giovanni - rhydd-feddyliwr sydd wedi gadael trywydd o ferched sydd wedi eu swyno ganddo ledled Ewrop. Mae'r dynged olaf sy’n dod i’w ran yn bwerus ac yn gyfiawn."

Sgyrsiau cyn y sioe yn yr oriel gelf 6.15yh.

 

Running time: approx. 3hrs 30mins

 

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top