Back

Royal Ballet: The Nutcracker

Cynhyrchiad godidog The Nutcracker y Bale Brenhinol, a grëwyd gan Peter Wright ym 1984, yw'r cynhyrchiad eithaf o un o'r dawnsiau bale mwyaf poblogaidd erioed. Mae'n noswyl Nadolig ac mae'r dewin Herr Drosselmeyer yn swyno Clara ifanc gan fynd â hi ar antur lle caiff treigl amser ei oedi, mae ystafell fyw'r teulu'n troi ‘n faes y gad ac mae taith hudol yn mynd â nhw drwy Wlad yr Eira i Deyrnas y Losin. Mae sgôr ddisglair Tchaikovsky, dyluniadau Nadoligaidd moethus y llwyfan a dawnsio cyfareddol yn gwneud y cynhyrchiad hwn o'r Nutcracker yn brofiad Nadoligaidd hanfodol.

Amser rhedeg: 135 munud

 

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top