Back

Abbey Shakespeare Players: The Merry Wives of Windsor

gan William Shakespeare

The Abbey Shakespeare Players, Abaty Llandudoch

‘Setting the attractions of my good parts aside, I have no other charms.’

Prin yw ffrindiau Falstaff ac nid yw’n cael llawer o lwc ar hyn o bryd; ond nid yw hyn yn ei rwystro rhag dod i Windsor gyda’r gobaith o ddenu dwy fenyw briod ar yr un pryd am eu harian. Ond mae’r aruthrol Feistres Page a Meistres Ford yn gweld trwyddo o’r cychwyn, ac mae’r Merry Wives yn penderfynu troi’r fantol yn ei erbyn.

Mae’r hwyl a sbri sy’n dilyn yn tynnu ar wendidau dynol sy’n deilwng o unrhyw gomedi deledu. Dychmygwch genfigen ddi-sail, snobyddiaeth, lletchwithdod cymdeithasol, anfedrusrwydd biwrocrataidd, ac, wrth gwrs, cystadlu â’r Jonesiaid.

Yn olwg gyfoes ar un o gomedïau mwyaf doniol Shakespeare, hon yw 33ain cynhyrchiad blynyddol yr Abbey Shakespeare Players. Gyda diweddglo o hud gwledig, mae’r ddrama hon yn dathlu bywyd a chariad mewn ffyrdd fydd yn peri i chwerthin atseinio drwy awyr y nos yn Sir Benfro.

Mae tocynnau hefyd ar gael wrth y drws. Mae hwn yn gynhyrchiad awyr agored, felly gwisgwch ddillad cynnes. Os bydd hi’n bwrw glaw yn drwm, byddwn yn perfformio mewn lleoliad o dan do.

Amser rhedeg: 2 ½ awr gydag un egwyl.

£10 (£8) 

 

Browse more shows tagged with:

Top