Ballet Theatre UK: A Christmas Carol

Yn ôl o ganlyniad i alw mawr, bydd y stori gyfareddol, A Christmas Carol yn dychwelyd ar gyfer y tymor Nadoligaidd. Yn seiliedig ar lyfr Charles Dickens, mae'r stori glasurol wedi'i gosod yn strydoedd Nadolig traddodiadol oes Fictora. Mae'r tri ysbryd hudolus yn eich tywys ar daith ysbrydoledig i'n hatgoffa ni i gyd na fydd mynd ar drywydd arian bob amser yn ein gwneud ni'n hapus. Wedi'i osod i sgôr o garolau llawen poblogaidd, ynghyd â gwisgoedd syfrdanol a choreograffi rhyfeddol gan y Cyfarwyddwr Artistig, Christopher Moore, dyma i chi ffefryn teuluol ni fyddwch am ei golli. Dewch ar daith wrth i ni gyflwyno gwir ystyr y Nadolig i chi.

£15 (£14)

Browse more shows tagged with: