Back

Blodau Papur

+ cefnogaeth wrth Mared Williams

Mae Clwb Ifor Bach yn hapus iawn i gyhoeddi taith albwm newydd Blodau Papur mewn amryw o leoliadau yng Nghymru. Mi fydd Alys Williams a’i band yn troedio llwyfannau Cymru i berfformio caneuon oddi ar eu halbwm cyntaf hir ddisgwyliedig ar ôl llwyddiant eu senglau cyntaf ‘Llygad Ebrill a ’Tyrd Ata I’. Dyma gyfle i brofi llais eneidiol Alys Williams a’i band talentog - Osian Williams, Dafydd Huws, Aled Huws a Branwen Williams ar rai o’n llwyfannau mwyaf adnabyddus. Mae’r band yn plethu dylanwadau blues, funk a harmonïau godidog i’w perfformiad byw i greu perfformiad a fydd yn aros yn y cof am amser hir.

Hyrwyddir gan:            CLWB IFOR BACH

£12

Browse more shows tagged with:

Top