Back

BTUK: The Nutcracker

Daw Ballet Theatre UK ag un o gyfansoddiadau enwocaf Tchaikovsky i fywyd ar gyfer Nadolig 2017. Mae bale’r Nutcracker yn adrodd anturiaethau merch ifanc, Clara, ar noswyl Nadolig. Pan mae Clara’n syrthio i gysgu gyda’i Nutcracker, mae byddin o lygod yn ymosod ar ei theganau a’r Nutcracker. Ar ei siwrnai mae’n gweld Plu eira hudol, doliau’n dawnsio a choeden Nadolig sy’n estyn i’r awyr. Mae sgôr hyfryd Tchaikovsky yn cyfuno â choreograffi hudol, gwisgoedd ysblennydd a golygfeydd syfrdanol i greu awyrgylch yn llawn ffantasi a rhith.

£15 (£14)

Browse more shows tagged with:

Top