Back

A Calan Christmas in Wales

Dathlwch dymor y Nadolig gyda bagbibau, ffidlau, telyn a dawnsio step

Mae Calan - y band rhyngwladol clodfawr o Gymru yn teithio eto gyda’i rhythmau atgofus a rwtîns egnïol i ddathlu adeg y Nadolig.

Ymunwch â nhw ar gyfer ‘A Calan Christmas in Wales’; cracer o sioe - gyda cherddoriaeth, dawns, bagbibau traddodiadol Cymreig, acordion, ffidlau a dawnsio step, gan ddod ag adeg y Nadolig yn fyw!

Disgwyliwch riliau tanbaid a jigiau disglair ynghyd â chaneuon traddodiadol adnabyddus a hefyd dehongliad o ganu’r Plygain - traddodiad tymhorol canu harmoni o Gymru a fu unwaith yn boblogaidd yn yr eglwysi a’r capeli.

Edrychwch  hefyd am ymddangosiad arbennig y Fari Lwyd; traddodiad Cymreig y ceffyl pren wedi ei addurno gyda goleuadau sy’n fflachio a rhubanau lliwgar!

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y grŵp yn Borneo, Canada, yr UDA, Awstralia, Ffrainc a Denmarc, mae Calan yn llwybro ei ffordd nôl ar gyfer y Nadolig.

Parti heb ei ail.

  £16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top