Back

The Fureys

Mae enwogion cerdd a chân Wyddelig The Fureys wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ar draws y byd am 41 mlynedd. Yn gyfrifol am lawer o’r gerddoriaeth fwyaf bywiog sydd erioed wedi cipio dychymyg y cyhoedd, mae eu cerddoriaeth sy’n seiliedig ar ganu gwerin wedi peri i’r gynulleidfa godi ar ei thraed mewn rhai o’r neuaddau cyngerdd mwyaf yn y byd. Maen nhw’n rhoi’r clod am eu gallu cerddorol i’w rhieni, Ted a Nora, y ddau yn gerddorion adnabyddus eu hunain. Gwnaethant annog eu meibion i chwarae cerddoriaeth o oedran ifanc iawn ac roedd ‘na gerddoriaeth traddodiadol fyw yn eu cartref bron pob nos.

 www.thefureys.com

£21

Browse more shows tagged with:

Top