Back

Gŵyl Fawr Aberteifi: "Hwyl a Haul" - Sioe Criw CICA / Musical Show with CICA

Sioe gerdd yn cael ei pherfformio gan griw CICA (Cwmni Ieuenctid Cylch Aberteifi). Bydd 60 o blant a phobl ifanc y cylch yn ein diddanu gyda sioe wreiddiol wedi ei hysgrifennu ar eu cyfer - gyda sgript yn llawn hiwmor dyma gyfle unwaith eto i weld doniau lleol ar eu gorau.

Bydd chyfieithydd ar y pryd i drosi i’r Gymraeg.

AMDAN YR ŴYL 

Gŵyl ddiwylliannol Gymraeg flynyddol tref Aberteifi yw’r  Ŵyl Fawr - wythnos lawn o weithgaredd yn cynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth a dawns.

Sefydlwyd yr Ŵyl yn 1952 fel Eisteddfod lled-genedlaethol – man canol rhwng Eisteddfodau bach lleol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn 2018 cynhelir yr Ŵyl yn Theatr Mwldan a Chastell Aberteifi.

Mae’r Ŵyl yn dechrau ddydd Sadwrn gyda Seremoni Gyhoeddi yng Nghastell Aberteifi . Nos Fawrth a Nos Iau ceir cyfle i weld talent lleol ar ei orau gyda pherfformiad o sioe gerdd Gymraeg gan griw CICA sef plant a phobl ifanc y cylch. Nos Fercher daw beirdd at ei gilydd yng Nghastell Aberteifi i gystadlu yn Nhalwrn y Beirdd. Nos Wener a dydd Sadwrn daw cystadleuwyr o bell ac agos i gystadlu yn yr Eisteddfod sydd yn cynnwys cystadlaethau cerdd, llefaru a dawns - mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys seremoni cadeirio’r Bardd a chystadleuaeth y Rhuban Glas i brif unawdwyr yr Ŵyl.

Daw’r Ŵyl i ben ddydd Sul gyda oedfa boreol am 10yb yn Y Tabernacl, a Chyngerdd Cloi’r Ŵyl gyda’r nos.  

gwylfawraberteifi.com

Browse more shows tagged with:

Top