Back

Greg Russell & Ciaran Algar

Mae Greg Russell a Ciaran Algar, sydd wedi ennill Gwobr Werin BBC Radio 2 ddwywaith, yn cyfuno llais nerthol ac arddull gitâr yriadol Russell â chwarae ffidil Algar, sy’n enillwr Pencampwriaeth Iwerddon Gyfan.

Ers ymuno â’i gilydd, mae’r deuawd wedi datblygu’n un o’r actau mwyaf poblogaidd ar y sîn werin gan deithio’n eang yn y DU, Denmarc, yr Almaen, Ffrainc, Sbaen Gwlad Belg a’r Iseldiroedd. Disgrifiwyd eu halbwm stiwdio diweddaraf (2018), eu pedwerydd, sef Utopia & Wasteland, fel ‘cam mawr ymlaen’ (RnR Magazine), gan eu sefydlu fel ‘bechgyn euraidd Gwerin Brydeinig’ (MOJO) a’u dyrchafu i fod yn ‘un o ddeuawdau mwyaf cyffrous unrhyw genre’ (FRUK). 

Yn ogystal â theithio fel deuawd, mae Greg Russell & Ciaran Algar wedi bod yn rhan o rai o’r cydweithrediadau artistig blaenaf ar y sîn werin yn y DU yn ystod y ddegawd ddiwethaf gan gynnwys The Transports (5 Seren, The Guardian), Sam Kelly and the Lost Boys a Shake the Chains (4 Seren, The Guardian).

£12.50 (£11.50) (£3)

The Telegraph
The Sun
The Daily Star
folk at its very best
Maverick
invigorating…infectious joy
Songlines

Browse more shows tagged with:

Top