Back

Illyria - Dr Dolittle

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

Gan Hugh Lofting

Pan gaiff Dr John Dolittle ei addysgu gan ei hen barot doeth sut i siarad ag anifeiliaid, mae newyddion am ei sgiliau’n lledu’n eang. Ymhen hir, mae anifeiliaid ar draws y byd yn anfon negeseuon yn gofyn am ei help. Felly, mae’n prynu hen long, a gyda’i griw ffyddlon o anifeiliaid, mae’n cychwyn allan ar genhadaeth i wella salwch, lledu tosturi a datblygu gwell dealltwriaeth o deyrnas yr anifeiliaid. Yn antur ddoniol, hoffus a chyffrous sy’n cario neges gref am gyfrifoldeb tuag at anifeiliaid a’r amgylchedd. Mae’r sioe yn addas i fwncis bach sy’n 5 oed ac yn hŷn. 

Hefyd yn y Castell ar Awst 23 - Dewch i ddarganfod pob dim am anifeiliaid Castell Aberteifi a chymrwch ran mewn llwybr thema anifeiliaid o gwmpas gerddi hardd y castell cyn sioe Illyria, Dr Dolittle.

GWYBODAETH HANFODOL

Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.

Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau a dillad cynnes.

Bydd lluniaeth ar gael ar y safle yn y digwyddiadau hyn. Croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau.   

Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformio. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.

Caiff perfformiadau eu llwyfannu mewn pob tywydd ond y gwaethaf. Nid yw tocynnau’n ad-daladwy.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Am wybodaeth am y Castell galwch 01239 615131.

GWYBODAETH TOCYNNAU

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.

Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.

Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.

Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 

£13 (£11) £9

Browse more shows tagged with:

Top