Back

Illyria: The Mikado

  YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI  

Gan Gilbert and Sullivan

Yn nhref Titipu mae fflirtio yn anghyfreithlon. Y gosb, yn ôl gorchymyn y Mikado, yw marwolaeth.  Cafodd comedi goeglyd Gilbert & Sullivan ei gosod yn Japan, ond mae ei gwatwar ar y ffyrdd y gellir troi celwydd yn wirionedd yn fwy perthnasol at gefndir gwleidyddol y byd Seisnig ei iaith nag erioed o’r blaen efallai! Wedi ei pherfformio gan gast o 6 actor/cantor gyda chyfeiliant cyfarwyddwr cerddorol ar yr allweddellau, caiff ei chynhyrchu ar lwyfan ag arni iet Tori Japaneaidd trawiadol (a dilys) enfawr.

Yn addas i 5+

Amser Rhedeg: 2 awr yn cynnwys egwyl o 20 muned

GWYBODAETH HANFODOL

Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.

Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau a dillad cynnes.

Bydd lluniaeth ar gael ar y safle yn y digwyddiadau hyn. Croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau.   

Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformio. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.

Caiff perfformiadau eu llwyfannu mewn pob tywydd ond y gwaethaf. Nid yw tocynnau’n ad-daladwy.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Am wybodaeth am y Castell galwch 01239 615131.

GWYBODAETH TOCYNNAU

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.

Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.

Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.

Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 

£15 (£13) £11 Plant

Browse more shows tagged with:

Top