Back

Illyria: Much Ado About Nothing

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIAD AR Y CYD GAN THEATR MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

 

Mae'n ddrwg gennym roi gwybod i chi bod Illyria wedi penderfynu canslo eu holl ddigwyddiadau haf fel mesur rhagofalus mewn ymateb i sefyllfa bresennol Covid-19. Mae hyn yn cynnwys eu digwyddiadau sydd wedi'u trefnu yng Nghastell Aberteifi dros yr haf.

Os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer un o'r digwyddiadau hyn bydd ein swyddfa docynnau yn cysylltu â chi er mwyn trefnu ad-daliad, neu nodyn credyd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

 

gan William Shakespeare

Mae Claudio yn caru Hero, ac mae Benedick yn casáu Beatrice. Mae hyn yn dda o beth, oherwydd mae Hero yn caru Claudio ac mae Beatrice yn casáu Benedick. Mae pawb yn chwerthin pan mae Don Pedro yn chwarae tric ar Benedick a Beatrice, gan adael i’r naill feddwl bod y llall yn ei garu’n gyfrinachol. Ond nid yw'n fater chwerthin pan fydd Don John yn chwarae tric ar Claudio ac Hero, gan dwyllo Claudio i feddwl nad yw Hero yn ffyddlon iddo. Caiff cynddaredd llofruddiol ei ollwng, does bosib mai marwolaeth yw'r unig ateb? Efallai y gall un tric olaf atgyfodi'r meirw diniwed, adfer perthnasoedd toredig - a hyd yn oed creu undeb annhebygol rhwng Benedick a Beatrice! Yn eu 29ain tymor o deithio perfformiadau awyr agored, ac yn enwog ledled y byd am eu heglurdeb, eu hansawdd a'u dyfeisgarwch, mae Illyria yn cadw at eu cynefin: comedi Shakespeare.

£15 (£13)    

GWYBODAETH HANFODOL

Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.

Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau a dillad cynnes.

Bydd lluniaeth ar gael ar y safle yn y digwyddiadau hyn. Croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau.   

Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformio. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.

Caiff perfformiadau eu llwyfannu mewn pob tywydd ond y gwaethaf. Nid yw tocynnau’n ad-daladwy.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Am wybodaeth am y Castell galwch 01239 615131.

GWYBODAETH TOCYNNAU

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.

Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.

Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.

Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 

Browse more shows tagged with:

Top