Back

Sharon Shannon

Dychwela Sharon Shannon gyda’i halbwm stiwdio newydd Sacred Earth. Dyma ei halbwm stiwdio cyntaf ers 3 mlynedd a’i degfed halbwm hyd yma. Mae Sharon yn gerddor sy’n hoffi ein synnu. Er ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei threfniadau o donau a chyfansoddiadau Gwyddelig traddodiadol, bu bob tro yn awyddus i archwilio arddulliau newydd, ac i gwrdd â ac i weithio gydag artistiaid eraill. Caiff ei dylanwadau Gwyddelig eu cymysgu’n llon ag arddulliau annisgwyl bydol, gan gynnwys Affrica. Mae’r chwaraewr acordion wedi recordio a theithio gyda llu o enwogion gan gynnwys Bono, Sinead O’Connor a Shane MacGowan.

£18
Bydd bwyty dros dro Y Goeden Bobl yn cynnig bwydlen osod o fwyd Indiaidd cyfoes cyn y sioe o 6yh

Browse more shows tagged with:

Top