Back

Theatr Genedlaethol Cymru: Nyrsys

gan Bethan Marlow

Caneuon gan Rhys Taylor a Bethan Marlow

Syniad gwreiddiol gan Sara Lloyd a Bethan Marlow

A hithau’n flwyddyn pan fo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed, cawn gipolwg ar brysurdeb dyddiol ward canser mewn ysbyty yng Nghymru heddiw, gyda sgript a chaneuon wedi’u llunio o gyfweliadau â nyrsys ‘go iawn’. Mae’r ddrama newydd hon yn rhoi llwyfan i brofiadau nyrsys – yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu yn eu gwaith o ddydd i ddydd, a’r direidi, y chwaergarwch, a’r teimlad o alwedigaeth sy’n eu cynnal. Dyma ddarlun o’r galon o fywyd a gwaith yr arwyr hyn sy’n gofalu amdanom ni ac am ein hanwyliaid mewn cyfundrefn iechyd dan bwysau parhaol.

Cyfarwyddwr: Sara Lloyd

Cyflwynir Nyrsys mewn cydweithrediad â Pontio.

Mynediad i’r di-Gymraeg drwy gyfrwng Sibrwd.

Bydd cyflwyniad byr yn y cyntedd am 7yh cyn y sioe (yn ddi-dâl ar gyfer deiliaid tocyn). Anelir y cyflwyniad hwn at ddysgwyr Cymraeg

£12 (£10)

£12 (£10)
Yn addas i 11+

Browse more shows tagged with:

Top