Back

Catrin Finch & Seckou Keita 2017

Cyd-Gynhyrchiad Theatr Mwldan 

Catrin Finch a Seckou Keita (Cymru / Senegal)

 

Mae’r prosiect llwyddiannus hwn yn parhau i gyfareddu a gwefreiddio cynulleidfaoedd ar draws y byd.

Mae e wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i’r delynores Gymreig, Catrin Finch, a’r chwaraewr kora o Senegal, Seckou Keita, gyda llu o wobrau ac enwebiadau, gan gynnwys Enillwyr Albwm y Flwyddyn Cylchgrawn fRoots gyda’u halbwm cyntaf Clychau Dibon.  Yn wir, ymddengys nid oes terfyn ar orchestion y pâr meistrolgar hwn.

Mae gan y delyn safle canolog yn niwylliant hynod gyfoethog Gorllewin Affrica a Chymru, ac yn rhyfeddol, mae’r ddwy wlad yn rhannau traddodiad barddonol hynafol o hanesion llafar cain, wedi eu mynegi trwy gerddoriaeth, cân a phennill.

Bydd Catrin a Seckou yn chwarae dyddiadau a gwyliau penodol trwy gydol 2015, ewch at wefan y prosiect am fanylion pellach o’u dyddiadau a digwyddiadau yn 2015, neu i archebu copi o’u halbwm sydd wedi ennill gwobrau, sef Clychau Dibon: www.catrinfinchandseckoukeita.com

 

Oes gennych ddiddordeb mewn trefnu bod y prosiect hwn yn dod i’ch gŵyl neu ganolfan? Cysylltwch â  dilwyn@mwldan.co.uk

 
 
Ar Daith Yn 2017:
 

Chwefror

 

10    BIMhuis, AMSTERDAM,  YR ISELDIROEDD

11    Musique de Nuit, Pelgrimvaderskerk, ROTTERDAM, YR ISELDIROEDD

12    Oosterpoort, GRONINGEN, YR ISELDIROEDD

14    Cecil Sharpe House, LLUNDAIN

 

Ebrill

28   Acapela, Pentyrch CAERDYDD

 

Awst

8    Sidmouth FolkWeek, SIDMOUTH

intricate, ethereal and entrancing, an elaborate pas-de-deux... remarkable
Neil Spencer, Uncut Magazine
a sublime duo of two artists who are masters of their instruments...musicality and architecture at work
Simon Broughton, London Evening Standard
This, I suspect, will be remembered as one of the classic concerts of the year
Robin Denselow, The Guardian

Browse more shows tagged with:

Top