Back

The Land Of The Enlightened (15)

CYMDEITHAS FFILM THEATR MWLDAN FILM SOCIETY

Pieter-Jan De Pue, 2016, Belgium, Ireland, Netherlands, Germany, Afghanistan, 86’

Siwrnai sinematig syfrdanol i harddwch Afghanistan yn sgil y rhyfel. Wedi ei saethu dros saith mlynedd ar ffilm 16mm. Golwg mympwyol, ond atgofus ar gyflwr yr Afghanistan sydd yn weddill i’r genhedlaeth nesaf. Wrth i filwyr America paratoi i adael, mae criw o blant Afghanistan yn palu hen ffrwydrynnau Sofiet ac yn gwerthu’r ffrwydron i blant sy’n gweithio mewn mwynfa lapis lazuli. Yn y cyfamser mae criw arall o blant yn cadw rheolaeth agos ar y carafanau sy’n smyglo’r gemau glas trwy fynyddoedd cras Pamir.

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau Llawn y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan.

e-bostiwch tmfs@mwldan.co.uk neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian!     

£7.30 (£5.50)

Top