Back

Mustang (15)

Deniz Gamze Ergüven, France, Germany, Turkey, Qatar, 2015, 97’

Mae’n ddechrau’r haf. Mewn pentref yng Ngogledd Twrci, mae Lale a’i phedair chwaer yn dychwelyd o’r ysgol, gan chwarae’n ddiniwed gyda’r bechgyn. Mae anfoesoldeb tybiedig eu gemau yn achosi sgandal gyda chanlyniadau anfwriadol. Mae’r aelwyd yn raddol troi’n garchar, mae dosbarthiadau ar waith tŷ a choginio yn cymryd lle gwersi’r ysgol, ac mae priodasau’n dechrau cael eu trefnu. Mae’r pum chwaer, wedi eu gyrru gan yr un awydd am ryddid, yn ymladd yn ôl yn erbyn y cyfyngiadau a osodir arnynt.

SUBTITLES | IS-TEITLAU

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfs@mwldan.co.uk neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian!  

£7.10 (£5.40)

Top