Back

Tale Of Tales (15)

CYMDEITHAS FFILM THEATR MWLDAN FILM SOCIETY

Matteo Garrone | Italy, France, UK | 2015 | 133’

Wedi ei ffilmio’n gelfydd gyda thrac sain wefreiddiol a gyfansoddwyd  gan Alexandre Desplat, mae’r ffilm hon yn ail-ddehongliad moethus, deniadol ac erchyll ar straeon tylwyth teg Eidalaidd Giambattista Basile. Mae tair stori gywrain yn cynnwys brenhines (Salma Hayek) sy’n rhoi genedigaeth ar ôl bwyta calon bwystfil môr, hen werinwraig sy’n canfod ieuenctid ar ôl syrthio i gysgu mewn fforest hudol a brenin sy’n magu chwannen yn blentyn iddo, straeon ni fentrodd eich rhieni eu hadrodd i chi. Dihangdod sinema ysblennydd.

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfs@mwldan.co.uk neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian!  

£7.10 (£5.40)

Top