Back

Catrin Finch â Cimarrón

 

Carlos Cuco Rojas 1954 - 2020

Ddatganiad oddi wrth Theatr Mwldan.

 

CYNHYRCHIAD THEATR MWLDAN 

Cyfle prin i weld cydweithrediad byd-eang gwefreiddiol. Yn ôl yn 2007, cyfarfu’r delynores Gymreig Catrin Finch â Cimarrón y band joropo o Golombia  a chychwyn ar daith gyffrous o Gymru, cydweithrediad a ailadroddwyd yn 2009 a 2010. Deng mlynedd yn ddiweddarach, mae Catrin a Cimarrón yn cwrdd eto i deithio’r DU.

Mae Catrin Finch yn un o delynorion arweiniol y byd, y mae ei gyrfa wedi cynnwys perfformiadau unigol gyda cherddorfeydd blaenaf y byd, a chydweithrediadau gyda rhai o’r artistiaid cerddoriaeth byd gorau, gan gynnwys Toumani Diabate a Seckou Keita y chwaraewr kora o Senegal.

Mae Cimarrón, grwp 6 darn a enwebir am Grammy yn perfformio cerddoriaeth ddawns joropo o wastatiroedd magu gwartheg yr Orinoco, yn wreiddiedig yn ddwfn mewn traddodiad a ddiffinnir gan etifeddiaeth gymysg mestizo o Affrica, Sbaen a diwylliannau brodorol. Wedi ei arwain gan y telynor a’r cyfansoddwr Carlos Rojas, mae Cimarrón yn creu cerddoriaeth wyllt, anystywallt sy’n cynnal yr ysbryd rhyddid sydd i’w ganfod yn un o ardaloedd mwyaf naturiol y byd. Yn sionc ac yn rymus, dyma i chi gerddoriaeth sydd â chanu angerddol, dawnsio stomp rhyfeddol a meistrolaeth offerynnol danbaid y llinynnau ac offerynnau taro.

 

AR DAITH

 

IONAWR 2020

 

20         Theatr Mwldan, ABERTEIFI

22         Liverpool Philharmonic Music Room, LERPWL

23         The Stoller Hall, MANCEINION

24         Galeri, CAERNARFON

25         Bristol St Georges, BRISTE

26         Celtic Connections, GLASGOW

28         Theatr Brycheiniog, ABERHONDDU

29         Canolfan Y Cefyddydau ABERYSTWYTH Arts Centre

30         Turner Sims, SOUTHAMPTON

31         Canolfan y Celfyddydau Taliesin Arts Centre ABERTAWE

 

CHWEFROR 2020

1          Sage GATESHEAD

3          St David’s Hall, CAERDYDD

4          The Apex, BURY ST EDMUNDS

5          Lakeside, NOTTINGHAM

6          Cecil Sharp House, LLUNDAIN

 

By far the most talked about/enjoyed WOMEX artists were definitely Cimarron, no contest
Ian Anderson, FROOTS Magazine

Browse more shows tagged with:

Top