Back

Gwybodaeth Tocynnau

WEDI ARCHEBU EICH TOCYNNAU? 

Yn gyntaf, gwiriwch eich tocynnau’n ofalus (dyddiau, amserau a digwyddiadau), a rhowch wybod i’r swyddfa docynnau os oes unrhyw beth o’i le. Cliciwch ar y linc ar yr ochr dde i weld ein telerau ac amodau cyflawn.

 

ARCHEBWCH DOCYNNAU O FLAEN LLAW

Os nad ydych wedi cadw eich tocynnau o flaen llaw cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i wirio argaeledd cyn i chi ddechrau ar eich siwrnai. O dro i dro bydd manylion yn newid neu bydd sioe yn gwerthu pob tocyn, a ni hoffwn siomi unrhyw un.

 

POLISI AD-DALIADAU 

Fe wnaethom newid ein polisi ad-daliadau dros dro i gyd-fynd â’r angen am newidiadau munud olaf a achoswyd gan COVID. O 1 Gorffennaf byddwn yn dychwelyd i’n polisi ad-daliadau blaenorol (sy’n caniatáu i’n lleoliad weithredu mewn ffordd fwy hyfyw).

 

BETH SY’N DIGWYDD OS CAIFF DIGWYDDIAD RWYF WEDI ARCHEBU TOCYNNAU AR EI GYFER EI OHIRIO NEU EI GANSLO GAN Y MWLDAN?

Os oes angen symud digwyddiad i ddyddiad newydd byddwch yn cael cynnig tocynnau ar gyfer y dyddiad newydd. Os na fydd y dyddiad newydd yn addas byddwn yn cynnig ad-daliad neu gredyd llawn i chi ar ein system. Cysylltwch â'n swyddfa docynnau ar boxoffice@mwldan.co.uk

 

SEDDAU

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, yna cysylltwch â’n swyddfa docynnau ar 01239 621200 a gwnawn ein gorau i ateb eich anghenion. Mae rhifau eich seddau i’w gweld yn glir ar eich tocynnau. Siaradwch ag aelod o staff ar ôl i chi gyrraedd os oes angen cymorth arnoch.

 

***YN ARCHEBU TOCYNNAU AR GYFER DIGWYDDIAD YNG NGHASTELL ABERTEIFI?***

  • Cyfeiriwch at y dudalen digwyddiadau ar ein gwefan am wybodaeth hanfodol sy’n benodol i’r digwyddiad megis trefniadau eistedd, addasrwydd oed, gwybodaeth am arlwyo ac ati.
  • Caiff wybodaeth hanfodol bellach mewn perthynas â'ch digwyddiad ei hanfon atoch yn agosach at y dyddiad. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mewn perthynas â’r digwyddiad rydych wedi archebu tocynnau ar ei gyfer.
  • Ni roddir ad-daliadau ar docynnau ar gyfer digwyddiadau a hyrwyddir ar y cyd gan Gastell Aberteifi | Theatr Mwldan yw'r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.

 

ARCHEBU HEB DALIAD

  • Nid oes modd archebu heb daliad ar gyfer perfformiadau sinema.
  • Os na allwch ddod i berfformiad neu ffilm yr ydych wedi archebu tocynnau ar eu cyfer am 7 niwrnod ac wedi hynny byddant yn cael eu rhyddhau i'w hail werthu. Rhaid gwneud taliad yn syth ar gyfer archebion sydd o fewn 7 niwrnod i sioe. 

 

Top
G