Back

THE FALL GUY (12A)

David Leitch | USA | 2024 | 126’

Mae Ryan Gosling, a enwebwyd am Oscar® (Barbie, La La Land, Drive) yn chwarae rhan Colt Seavers, styntiwr sydd wedi ymddeol. Mae’n cael ei ddenu yn ôl i’r cyffro pan mae’r seren mewn ffilm gyllideb enfawr, sy’n cael ei chyfarwyddo gan ei gyn-gariad, Jody Moreno, yn mynd ar goll. Wrth i'r dirgelwch ddyfnhau, mae Colt yn cael ei hun mewn cynllwyn troseddol peryglus. Wedi’i hysbrydoli gan gyfres deledu’r 80au, mae The Fall Guy yn cynnwys Emily Blunt (Oppenheimer), Winston Duke (masnachfraint Black Panther), a Stephanie Hsu (Everything Everywhere All at Once).

£8.40 (£7.70, £5.90)

Caiff y ffilm hon ei dangos gydag isdeitlau ar Nos Fawrth 7 Mai @ 7.45pm 

Browse more shows tagged with:

Top