Back

HAMLET (12A)

Sean Mathias | UK | 2023 | 118’

Ian McKellen, un o gewri gwaith Shakespeare a enwebwyd am Wobr yr Academi ddwywaith yw seren y fersiwn cyffrous ac unigryw hwn o drasiedi glasurol y Bardd, sydd hefyd yn cynnwys Steven Berkoff, Frances Barber a Jonathan Hyde. Mae Ian McKellen yn ailgydio yn ei brif ran fel Hamlet, dyn sy’n mynd yn wallgo’ wrth iddo geisio talu’r pwyth yn ôl i’w ewythr am lofruddiaeth ei dad. A hithau’n stori am ddialedd sydd wedi sefyll prawf amser, caiff trasiedi glasurol Shakespeare ei hailddychmygu ar gyfer yr oes fodern fel ffilm gyffro seicolegol afaelgar sy’n defnyddio pob ystafell yn y Theatre Royal Windsor i ddod â Chastell Elsinore eiconig yn fyw, o ddwnsiwn yr islawr i’r bylchfuriau ar y to yn yr addasiad ffilm newydd deniadol hwn.

£8.40 (£7.70, £5.90)

Caiff y ffilm hon ei dangos gydag isdeitlau ar Nos Sadwrn 6 Ebrill @ 6.00pm

Browse more shows tagged with:

Top