Back

MUCH ADO ABOUT DYING (12A)

Simon Chambers | 2022 | UK | Ireland | | 85’

Pan mae’r gwneuthurwr ffilmiau Simon Chambers yn gorffen ffilmio’n gynnar yn India er mwyn gofalu am ei ewythr sy’n marw, nid oes ganddo unrhyw syniad o’r daith y maen nhw ar fin cychwyn arni gyda’i gilydd. Mae ei ewythr yn ei wythdegau, David Newlyn Gale, yn actor sydd wedi ymddeol ers tro. Fflat anaddas yw ei gartref, mae’n byw ar gawl, yn cadw ei hun yn gynnes gyda gwresogyddion trydan niferus ac yn brwydro yn erbyn plâu llygod gan ddefnyddio past dannedd. Ei ffynonellau maeth mwyaf yw llenyddiaeth a theatr, ac mae'n gweld yn ei nai, sydd hefyd yn hoyw, enaid creadigol o'r un anian. Rhwng ymsonau Shakespearaidd, mae Much Ado About Dying yn cyflwyno portread agos-atoch, sydd weithiau’n ddoniol ac sy’n deimladwy yn y pen draw o fywyd unig ac asesiad beirniadol tawel o’r adnoddau annigonol sydd ar gael yn y DU ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio’n gyflym.

£8.40 (£7.70, £5.90)

Sesiwn Holi ac Ateb - 4 Mai. Rydym wrth ein bodd y bydd Simon Chambers, cyfarwyddwr,

yn mynychu’r dangosiad ar ddydd Sadwrn 4 Mai am 7.30pm ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar ôl y ffilm.

(Sylwer, na fydd Simon yn mynychu'r sesiwn holi ac ateb ddydd Sul 5 Mai mwyach fel yr hysbysebir yn y rhaglen).

Browse more shows tagged with:

Top