Back

Macbeth: Ralph Fiennes & Indira Varma (12A TBC)

Mae Macbeth yn dod. Mae ‘na waed ar ddwylo pâr sydd wedi'u llygru gan eu chwant di-ildio am bŵer. Dewch i wylio’r stori afaelgar am drachwant, llofruddiaeth, twyll ac ofergoeliaeth mewn sinemâu am gyfnod cyfyngedig yn unig. Unwaith y byddwch chi'n croesi'r llinell, ni allwch chi byth droi'n ôl. 

Yr enillydd Gwobr Tony a Gwobr BAFTA Ralph Fiennes (Antony & Cleopatra, Schindler’s List, Coriolanus) a’r enillydd Gwobr Olivier, Indira Varma (Present Laughter, Game of Thrones, Luther) yw sêr cynhyrchiad newydd sbon o Macbeth gan William Shakespeare. 

Wedi’i ffilmio’n fyw yn Dock X, gofod theatr pwrpasol yn Llundain, bydd y llwyfaniad hwn o Macbeth sydd wedi’i ganmol gan y beirniaid yn un ni ddylech ei golli ar y sgrin fawr. Cyfarwyddwyd gan Simon Godwin (Antony & Cleopatra, Romeo & Juliet, Hansard) gyda dyluniad set a gwisgoedd gan Frankie Bradshaw (Jerusalem, Blues for an Alabama Sky).

£15 (£14)

 

★★★★
beautifully staged
WhatsOnStage
★★★★★
Shakespeare’s tragedy pulsing into the present day
The i
★★★★
full-voltage visceral
Daily Telegraph
★★★★
quickens the pulse, then goes for the jugular
Financial Times

Browse more shows tagged with:

Top