Back

NT Live: The Motive and The Cue (15)

Sam Mendes (The Lehman Trilogy) sy’n cyfarwyddo Mark Gatiss fel John Gielgud a Johnny Flynn fel Richard Burton yn y ddrama newydd ffyrnig a doniol hon. 1964: Richard Burton, sydd newydd briodi ag Elizabeth Taylor, fydd yn chwarae'r rôl deitl mewn cynhyrchiad Broadway newydd arbrofol o Hamlet o dan gyfarwyddyd llym John Gielgud. Ond wrth i ymarferion fynd rhagddynt, mae dwy oes o theatr yn gwrthdaro a chyn hir, mae’r cydweithio rhwng yr actor a’r cyfarwyddwr yn bygwth datod. Wedi’i hysgrifennu gan Jack Thorne (Harry Potter and the Cursed Child) a’i dylunio gan Es Devlin (The Crucible), cafodd y ddrama hon a enillodd wobr yr Evening Standard am y ddrama newydd orau, ei ffilmio’n fyw yn ystod rhediad a werthodd bob tocyn yn y National Theatre.

£13.50 (£12.50)

Browse more shows tagged with:

Top