Back

Alfie Moore: A Face for Radio

Rhywle mewn bydysawd cyfochrog cafodd sgiliau perfformio digrif naturiol Alfie eu cydnabod gan ei rieni cariadus a oedd yn annog ac yn datblygu ei ddawn eginol. Ar ôl sawl blwyddyn mewn ysgol lwyfan, cafodd wyneb angylaidd Alfie ei lansio ar y llwyfan a’r sgrin ac mae’r gweddill yn hen hanes.

Yn y cyfamser, yn y bydysawd hwn dywedwyd wrth Alfie Moore am roi’r gorau i'w ddrygioni yn y dosbarth cyn cael ei ‘annog’ i fyd diflas a bawlyd prentisiaeth yng ngwaith dur Sheffield. Pan darodd y dirwasgiad fe newidiodd dur am ‘gopr’ drwy ymuno â Heddlu Glannau Humber.

Mae deng mlynedd ar hugain o waith sifft, yng ngwaith dur Sheffield i ddechrau ac yna fel plismon ar y bît (lle cafodd ei bwnio yn ei wyneb gryn dipyn), wedi ei adael gyda ‘wyneb ar gyfer y radio’. Nid wyneb ‘cartrefol’ mohono, ond yn hytrach wyneb sydd wedi gweld diffyg cynnal a chadw ar hyd y blynyddoedd.

Yn ei 40au, fe drodd newid annisgwyl mewn gyrfa yr Alfie canol oed o fod yn blismon stryd i fod yn seren radio'r BBC. Ond pan ddaeth enwogrwydd teledu i'w ran, a allai fynd i’r afael ag ef, neu a oedd wedi mynd yn rhy hen?

£20

Browse more shows tagged with:

Top