Back

GOLYGFEYDD O'R PLA DU (14+)

Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr Production

1348, Pentreufargirec. Mae anhrefn newydd wedi dod – y Pla. Mae Duw wedi bradychu'r bobl ac mae gwallgofrwydd o bwyntio bys, hela cathod a llosgi hereticiaid wedi boddi'r pentref yn y toiled. I Twm y twyllwr, mae popeth yn gêm. Tra bod pobl yn marw, mae 'na ysgol gymdeithasol i'w ddringo. Ond o dan reolaeth Casglwr Trethi sy'n chwilio am gariad a gwerthwr tail chwyldroadol sy'n annog meddwl agored ymhlith y werin, mae Twm yn sylweddoli bod gan rym llawer o rwystrau. Comedi direidus, tywyll am y rhai sy'n elwa o argyfwng a llygredd. Croeso i'r Pla Du - does dim byd mwy doniol. 

Ym mhob perfformiad, bydd Sibrwd – ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru – ar gael i dywys y gynulleidfa trwy’r stori, pa mor rhugl bynnag ydynt yn Gymraeg. Trwy gapsiynau sy'n ymddangos ar ffôn y defnyddiwr, mae’r ap yn cyfleu yn Saesneg yr hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan. Mae ar gael i aelodau’r gynulleidfa ei ddefnyddio ar eu ffonau eu hunain am ddim.

Cynulleidfaoedd 14+

£14 (£12)

Lluniau gan Kirsten McTernan

Browse more shows tagged with:

Top