Back

Miracle on 34th Street

Mae Lighthouse Theatre nôl y gaeaf hwn gyda fersiwn drama radio byw o'r ffilm glasurol a enillodd wobr Oscar - drama sy’n adrodd stori yn llawn hwyl yr ŵyl a fydd at ddant yr ifanc a’r hen fel ei gilydd.

Mae gwyliau’r Nadolig ar eu hanterth pan mae siop adrannol fawr yn Efrog Newydd yn cyflogi hen ddyn oddi ar y stryd i ymddangos fel Siôn Corn yn y siop. Dywed mai ei enw yw Kris Kringle, ond nid yw popeth fel y mae'n ymddangos…

Yn dilyn llwyddiant It’s A Wonderful Life - A Live Radio Play, mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd gyda Chlasur Nadolig arall. Wedi'i gosod mewn stiwdio ddarlledu byw yn Efrog Newydd yn y 1940au, bydd Miracle On 34th Street yn teithio ar hyd a lled Cymru, gan ddod â phrofiad theatraidd a darlledu unigryw i theatr yn eich ardal chi.

Cyfarwyddir gan Joe Harmston | Dylunir gan Sean Cavanagh | Cerddoriaeth wreiddiol wedi’i chyfansoddi gan Robert Singer.

Artist Foley a chyfarwyddwr cerdd – Kieran Bailey.

Cyd-gynhyrchiad Canolfan Celfyddydau Pontardawe a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth gan Tŷ Cerdd.

£15 (£13)

Browse more shows tagged with:

Top