Back

Theatr Clwyd: Fleabag (16+)

Addasiad Cymraeg newydd o'r sioe boblogaidd! 

Drama gomedi arobryn Phoebe Waller-Bridge, Fleabag, wedi’i haddasu i’r Gymraeg gan yr awdur o fri, Branwen Davies. Mae’r sioe fudr, ddoniol, heb ffilter yma’n dilyn siwrnai ddi-drefn Cymraes tuag at fod â dim i’w golli. Efallai ei bod hi'n ymddangos yn or-rywiol, yn emosiynol amrwd ac yn hunanobsesiynol, ond dim ond y dechrau ydi hynny. Gyda pherthnasoedd dan straen a chaffi mewn trafferthion, mae hi ar y dibyn heb unrhyw le i fynd yn ôl pob tebyg. Ysgrifennwyd a pherfformiwyd Fleabag yn wreiddiol gan Phoebe Waller-Bridge yng Ngŵyl Fringe Caeredin. Wedyn addaswyd y sioe yn gyfres deledu ar y BBC a enillodd wobrau BAFTA, Emmy a Golden Globe. Mae’r addasiad Cymraeg yma gan Branwen Davies yn cael ei berfformio gan yr actores lwyddiannus o Gymru, Leah Gaffey. 

Iaith: Cymraeg 

£15 (£14)

Oed 16+

Yn cynnwys rhywfaint o iaith gref a chyfeiriadau rhywiol. Gyda chyfeiriadau at farwolaeth a hunanladdiad.

 

Browse more shows tagged with:

Top