Back

Limbo (12A)

Ben Sharrock | UK | 2020 | 104’

 

Mae Limbo gan Ben Sharrocks yn bleser di-wên sy'n llawn dynoliaeth ac yn arsylwad anarferol ar brofiad ffoaduriaid. Wedi'i lleoli mewn rhan anghysbell o'r Alban, mae'n debyg i’r hen Gomedïau Ealing, fel Whisky Galore!, ond gyda realaeth gymdeithasol hynod dywyll yn rhedeg trwyddi.

Mae grŵp o newydd-ddyfodiaid yn aros am ganlyniadau eu hawliadau lloches. Yn eu plith mae Omar, cerddor ifanc o Syria sydd wedi cario oud ei dad-cu, yr holl ffordd o’i famwlad.

Gan amlygu gobeithion a chaledi profiad ffoaduriaid, mae’n bosib mai’r awdl goeglyd, ingol, a doniol hon i garedigrwydd dieithriaid yw un o’r portreadau gorau o’r profiad bwriadol anghyfforddus ac anghyfeillgar sy’n wynebu ffoaduriaid yn y DU a llawer o'r byd.

 

£7.70 (£5.90)

 

 

 

** Archebu tocynnau o flaen llaw yn hanfodol. Archebu ar lein 24/7 mwldan.co.uk. Swyfddfa docynnau (ffÔn yn unig) Dydd Mawrth - Dydd Sul 2-4pm 01239 621 200. **

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfsfilms@gmail.com neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian. 

O dan yr amgylchiadau presennol, ar hyn o bryd nid yw seddi ar gyfer dangosiadau sinema yn cael eu dyrannu wrth i chi archebu tocynnau. Bydd seddi’n cael eu dyrannu i chi gan aelod o staff ar ôl i chi gyrraedd y Mwldan.

Os oes gennych unrhyw geisiadau am seddi (e.e. cais o ran symudedd, neu gais i eistedd wrth ymyl person arall), rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r blwch sylwadau sydd i'w weld ar waelod adran 'Eich Manylion' yn y broses archebu tocynnau.

Mae'r holl ffilmiau a restrir isod yn cynnwys Sain Ddisgrifio a Sain Atgyfnerthu

Top