Back

Petite Maman (U)

Céline Sciamma | French | 2021 | 72’

Bu disgwyl mawr am Petite Maman, y trysor diweddaraf gan Céline Sciamma(Portrait of a Lady on Fire, Girlhood), sy’n stori dylwyth teg modern ardderchog am ryfeddod tawel perthnasoedd mam a merch. Ar ôl i’w mam-gu annwyl farw, mae Nelly, sy’n wyth oed, yn cwrdd â ffrind dirgel yn y coed. Gyda'i gilydd maen nhw’n cychwyn ar daith ryfeddol o ddarganfod sy'n helpu Nelly i ddod i delerau â'r golled ddiweddar hon. Gan gynnwys perfformiadau canolog eithriadol gan yr efeilliaid go iawn Joséphine a Gabrielle Sanz, mae campwaith newydd Sciamma yn archwilio plentyndod, cof a cholled gyda thriniaeth nodweddiadol o dyner, y cyfan wedi’i blethu’n gelfydd gyda'i gilydd i greu darlun hudolus a theimladwy o gariad a derbyniad. 

£7.70 (£5.90)

** Archebu tocynnau o flaen llaw yn hanfodol. Archebu ar lein 24/7 mwldan.co.uk. Swyfddfa docynnau (ffÔn yn unig) Dydd Mawrth - Dydd Sul 2-4pm 01239 621 200**

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfsfilms@gmail.com neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian. 

O dan yr amgylchiadau presennol, ar hyn o bryd nid yw seddi ar gyfer dangosiadau sinema yn cael eu dyrannu wrth i chi archebu tocynnau. Bydd seddi’n cael eu dyrannu i chi gan aelod o staff ar ôl i chi gyrraedd y Mwldan.

Os oes gennych unrhyw geisiadau am seddi (e.e. cais o ran symudedd, neu gais i eistedd wrth ymyl person arall), rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r blwch sylwadau sydd i'w weld ar waelod adran 'Eich Manylion' yn y broses archebu tocynnau.

Top