Back

Kroke (Poland)

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN

Mae’r triawd Kroke (Iddew-Almaeneg am Kraków) o Wlad Pwyl yn perfformio'r ‘goreuon’ o blith caneuon mwyaf poblogaidd y band o’u gyrfa syfrdanol 30 mlynedd ei hyd. Yn wreiddiol roedd Kroke, a ffurfiwyd ym 1992 gan dri chyfaill - Tomasz Kukrba, Jerzy Bawof a Tomasz Lato - graddedigion yr Academi Gerddoriaeth yn Krakow, yn gysylltiedig â cherddoriaeth klezmer gyda dylanwadau cryf y Balcanau. Erbyn heddiw, wedi’u dylanwadu’n drwm gan jazz, cerddoriaeth gyfoes ac ethnig wedi’u trwytho â’u gwaith byrfyfyr syfrdanol eu hunain, mae’r triawd wedi mireinio arddull hollol unigryw sydd wedi denu sylw artistiaid a chynulleidfaoedd enwog ledled y byd.

Ym 1993 gwahoddodd Steven Spielberg y band i Jerwsalem i berfformio yn seremoni Aduniad y Goroeswyr. Arweiniodd gwahoddiad i chwarae yn WOMAD UK at sesiynau recordio gyda Peter Gabriel yn Real World, ac ymddangosiad dilynol Kroke ar ei albwm Long Walk Home, y trac sain ar gyfer ffilm 2002, Rabbit-Proof Fence. Cafodd y darn Secrets of The Life Tree, a berfformiwyd gan Kroke, ei gynnwys ar drac sain ffilm David Lynch Inland Empire, a daeth gwaith ar y cyd yn sgil cwrdd â Nigel Kennedy –  sef albwm East Meets East (2003). Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r band hefyd wedi cydweithio ag Anna Maria Jopek, Edyta Geppert, Talila, Tomasz Stańko, Maja Sikorowska, Krzysztof Herdzin, Tindra y band o Norwy, y feiolinydd o Sbaen Diego Galaz, y gantores o Fongolia Urna Chahar Tugchi a cherddorfa Sinfonietta Cracovia, ac wedi ymddangos yn rhai o wyliau cerdd mwyaf mawreddog y byd.

 

AR DAITH:

 

TACHWEDD

 

10   Hermon Arts, OSWESTRY

11   Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe

12  Mwldan, ABERTEIFI / CARDIGAN

14   The Apex, BURY ST EDMUNDS

15   Lakeside Arts, NOTTINGHAM 

16   Stoller Hall, MANCEINION

17   Wyeside Arts, LLANFAIR YM MUALLT 

18   EFG London Jazz Festival, Union Chapel 

19   The Anvil, BASINGSTOKE 

21   Turner Sims, SOUTHAMPTON

23   The Acorn, PENZANCE

24   Royal Welsh College of Music and Drama, CAERDYDD

 

 

 

 

 

Browse more shows tagged with:

Top