A COMPLETE UNKNOWN (15)
James Mangold | USA | 2025 | 140’
Dyma i chi ffilm sydd wedi’i gosod yn ystod tymor cerddorol hynod ddylanwadol dechrau’r 60au yn Efrog Newydd. Mae A Complete Unknown yn dilyn datblygiad cyflym iawn y cerddor 19 mlwydd oed o Minnesota Bob Dylan fel canwr gwerin i neuaddau cyngerdd a brig y siartiau wrth i’w ganeuon a’i gyfaredd dyfu’n enfawr ar draws y byd, gan arwain yn y pen draw at benderfyniad arloesol a hynod ddadleuol i newid i offerynnau trydan yng Ngŵyl Werin Newport ym 1965. Timothée Chalamet sy’n chwarae Bob Dylan yn y ffilm fywgraffyddol hon, ochr yn ochr ag Elle Fanning ac Edward Norton.
£8.40 (£7.70) (£5.90)