DROP (15 TBC)
Christopher Landon | USA | 2025 | tbc’
Yr enwebai Emmy, Meghann Fahy, sy’n serennu fel Violet, mam weddw ar ei dêt cyntaf ers blynyddoedd. Wrth iddi gyrraedd bwyty moethus mae’n falch bod ei dêt (Brandon Sklenar) yn fwy dymunol a golygus na'r disgwyl. Ond mae’r cemeg yn dechrau ceulo wrth i Violet gael ei chynhyrfu ac yna ei dychryn gan gyfres o bytiau gwybodaeth dienw sy’n cael eu gollwng yn syth i'w ffôn. Mae hi'n cael ei chyfarwyddo i beidio â dweud wrth neb ac i ddilyn cyfarwyddiadau ... neu bydd pawb y mae hi'n eu caru yn marw.
£8.40 (£7.70) (£5.90)