An American in Paris
Mae Jerry Mulligan yn filwr Americanaidd sy’n ceisio gwneud bywoliaeth fel arlunydd mewn dinas sydd yn sydyn yn llawn gobaith a phosibilrwydd. Yn dilyn cyfarfod ar hap â dawnswraig ifanc hardd o’r enw Lise, daw strydoedd Paris yn gefndir i ramant synhwyrus fodern o gelf, cyfeillgarwch a chariad yn sgil y rhyfel…
Mae’r sioe gerdd Broadway hynod hardd hon a enillodd wobr Tony®, wedi ei hysbrydoli gan y ffilm MGM a enillodd Oscar®, yn adrodd stori angerddol am ddarganfod cariad yn y ‘City of Light’. Yn cynnwys cerddoriaeth foethus a geiriau George ac Ira Gershwin, dyluniadau trawiadol, a choreograffi syfrdanol. Gyda 28 adolygiad pum seren gan y beirniaid, sy’n gosod record newydd, daw An American in Paris o West End Llundain i Theatr Mwldan.