Exhibition On Screen: JOHN SINGER SARGENT
Adwaenir John Singer Sargent fel arlunydd portreadau mwyaf ei oes. Yr hyn a wnaeth ei bortreadau ‘swagger’ yn rhyfeddol oedd ei bŵer dros ei eisteddwyr, yr hyn yr oeddent yn ei wisgo a sut y cawsant eu cyflwyno i’r gynulleidfa. Trwy gyfweliadau gyda churaduron, fashionistas cyfoes a dylanwadwyr arddull, bydd ffilm Exhibition on Screen yn archwilio sut mae ymarfer unigryw Sargent wedi dylanwadu ar gelfyddyd, diwylliant a ffasiwn fodern.
Wedi’i ffilmio yn Amgueddfa’r Celfyddydau Cain, Boston a’r Tate Britain, Llundain, mae’r arddangosfa’n datgelu pŵer Sargent i fynegi personoliaethau nodedig, deinameg pŵer a hunaniaethau rhywedd yn ystod y cyfnod hynod ddiddorol hwn o ailddyfeisio diwylliannol. Ochr yn ochr â 50 o baentiadau gan Sargent y mae eitemau o ddillad a chyfwisgoedd syfrdanol a wisgwyd gan ei destunau, gan dynnu’r gynulleidfa i mewn i stiwdio’r artist.
Roedd eisteddwyr Sargent yn aml yn gyfoethog, eu dillad yn ddrud, ond beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n rhoi eich hun yn nwylo arlunydd gwych? Mae gweithgynhyrchu hunaniaeth gyhoeddus yr un mor ddadleuol a chynhennus heddiw ag yr oedd ar droad yr 20fed ganrif, ond rhywsut mae gwaith Sargent yn mynd y tu hwnt i’r sŵn cymdeithasol ac yn cyfleu gwirionedd hudolus gyda phob strôc brwsh.
Camwch i’r byd disglair hwn o ffasiwn, sgandal a hunan-hyrwyddo digywilydd a wnaeth John Singer Sargent yr arlunydd a ddiffiniodd oes.
Archwiliwch broses greadigol unigryw hoff artist portreadau ddiwedd y 19eg ganrif a’r ffordd yr oedd ei bortreadau’n cipio ysbryd oes fywiog oedd yn newid yn gyflym.
£12 (£10)