Exhibition On Screen: Michelangelo: Love & Death

Cyfarwyddwyd gan David Bickerstaff – Cynhyrchwyd gan Phil Grabsky Mae cerfluniau a phaentiadau ysblennydd Michelangelo yn ymddangos mor gyfarwydd i ni, ond beth ydyn ni'n ei wybod mewn gwirionedd am y cawr hwn o'r Dadeni? Mae athrylith Michelangelo yn amlwg ym mhopeth y cyffyrddodd ag ef. Mae gweithiau hardd ac amrywiol fel y cerflun gwych o David, y Pietà teimladwy yn Basilica Pabaidd San Pedr a'i gampwaith, nenfwd y Capel Sistinaidd, yn parhau i’n syfrdanu ni heddiw. Gan gwmpasu 88 mlynedd ei fywyd, mae Michelangelo - Love and Death yn mynd ar daith sinematig trwy ystafelloedd argraffu a darlunio Ewrop trwy gapeli ac amgueddfeydd mawr Fflorens, Rhufain a'r Fatican i geisio dealltwriaeth ddyfnach o fywyd tymhestlog y ffigwr chwedlonol hwn, ei berthynas â'i gyfoeswyr a'i etifeddiaeth anhygoel. Trwy sylwebaeth arbenigol, delweddau syfrdanol a geiriau Michelangelo ei hun, mae'r ffilm hon yn edrych o'r newydd ar arlunydd y caiff ei fywyd a'i athrylith ei ddathlu ym mhob marc a wnaeth. Yn dychwelyd i sinemâu yn 2025 i ddathlu pen-blwydd yr artist eiconig hwn yn 550 oed. Cerflunydd, peintiwr, pensaer, bardd, athrylith – cewch ddarganfod pam taw Michelangelo, heb os, yw un o'r artistiaid gorau erioed.

£12 (£11)