Exhibition On Screen: Vermeer
Mae tocynnau ar gyfer yr arddangosfa Vermeer fwyaf mewn hanes yn y Rijksmuseum yn Amsterdam wedi gwerthu’n llwyr, sy’n golygu mai VERMEER: THE GREATEST EXHIBITION yw’r unig ffordd i weld y sioe unwaith-mewn-oes hon gan Exhibition on Screen. Mae’r ffilm ddogfen syfrdanol hon yn gwahodd cynulleidfaoedd i gael golwg breifat ar yr arddangosfa ysblennydd hon ar y sgrin fawr, yng nghwmni cyfarwyddwr y Rijksmuseum a churaduron y sioe. Yr arddangosfa bwysig hon sy’n bwrw golwg yn ôl yw’r mwyaf a neilltuwyd erioed i “feistr y goleuni”, gyda 28 o’i 35 darn o waith hysbys o wledydd ledled y byd. Ni fu erioed cymaint o gampweithiau Vermeer gyda’i gilydd mewn un man. Yn ogystal â chyfle unigryw i weld gwaith yr artist gwych o’r 17eg Ganrif, mae VERMEER: THE GREATEST EXHIBITION yn datgelu mewnwelediadau gan y tîm y tu ôl i’r Arddangosfa, curaduron byd-enwog ac arbenigwyr Vermeer, gan daflu goleuni newydd ar fywyd dirgel Vermeer a’i waith meistrolgar, y dewisiadau artistig a’r hyn fu’n cymell ei gyfansoddiadau, yn ogystal â'r broses greadigol y tu ôl i'w baentiadau. Exhibition on Screen, yw’r arloeswr gwobrwyedig, sydd wedi bod cyflwyno hoff gelf y byd i sinemâu ledled y byd ers dros ddegawd.
£12 (£10)