Matthew Bourne's The Red Shoes
WEDI GOHIRIO
Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod sioe Matthew Bourne's The Red Shoes ar 22 Mehefin wedi ei chanslo. Er ein bod yn disgwyl i hyn gael ei aildrefnu, nid oes gennym ddyddiad newydd ar gyfer y sioe ar hyn o bryd.
Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi gan ebost os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
*Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch ad-daliadau, credyd neu symud eich bwciad i'r dyddiad newydd: http://www.mwldan.co.uk/covid-19-statement-theatr-mwldan
Yn enillydd dwy Wobr Olivier, mae The Red Shoes yn stori am obsesiwn, meddiant a breuddwyd un ferch i fod y ddawnswraig fwyaf yn y byd. Mae Victoria Page yn byw i ddawnsio ond mae ei huchelgeisiau yn troi’n gynnen rhwng y ddau ddyn sy'n ysbrydoli ei brwdfrydedd. Mae addasiad hudolus Matthew Bourne o ffilm glasurol Powell a Pressburger wedi’i osod i gerddoriaeth hynod ramantus y cyfansoddwr oes euraidd Hollywood, Bernard Herrmann. Caiff y cynhyrchiad ei drefnu gan Terry Davies, gyda dyluniadau syfrdanol gan Lez Brotherston, goleuo gan Paule Constable, sain gan Paul Groothuis a dyluniad tafluniadau gan Duncan McLean. Wedi’i ffilmio’n fyw yn Sadler’s Wells yn Llundain yn arbennig ar gyfer sinemâu, mae The Red Shoes gan Matthew Bourne yn serennu Ashley Shaw fel Victoria Page, Adam Cooper fel Boris Lermontov a Dominic North fel Julian Craster.
£14 (£12)