ROH: Woolf Works (McGregor / Richter)
DIGWYDDIADAU DARLLEDU BYW MEWN MANYLDER UWCH WEDI SGRINIO TRWY LOEREN O DŶ OPERA BRENHINOL COVENT GARDEN LLUNDAIN
Gwaith llenyddol arloesol Virginia Woolf yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer tri darn gwych y coreograffydd clodfawr Wayne McGregor i’r Bale Brenhinol. Yn y darn hwn mae’n cyfuno themâu o dair o nofelau arloesol Woolf - Mrs Dalloway, Orlando a The Waves - gydag elfennau o’i llythyrau, traethodau a dyddiaduron. Mae’r cyfansoddwr canmoladwy Max Richter yn creu sgôr sydd wedi ei gomisiynu’n arbennig i ymgorffori cerddoriaeth electroneg a byw.
£16 (£15)
