Royal Ballet: The Dante Project
SIOE WEDI EI CHANSLO
Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod sioe Royal Ballet: The Dante Project ar 6 Mehefin wedi ei chanslo.
Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi gan ebost os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
*Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch ad-daliadau, credyd neu symud eich bwciad i'r dyddiad newydd: http://www.mwldan.co.uk/covid-19-statement-theatr-mwldan
Mae Divine Comedy Dante yn siwrnai epig trwy’r bywyd tragwyddol. Cafodd y gerdd ei hysbrydoli gan ddirboen alltudiaeth Dante ei hun, ac mae’n olrhain ei lwybr ef o argyfwng i ddatguddiad wedi ei arwain gan ei arwr llenyddol Virgil, a’i gariad colledig Beatrice. Yn y gwaith newydd hwn, mae Coreograffydd Preswyl y Royal Ballet Wayne McGregor yn cydweithio â thîm sydd wedi ennill gwobrau – y cyfansoddwr cyfoes Thomas Adès, yr artist Tacita Dean, y cynllunydd golau Lucy Carter a’r dramatwrg Uzma Hameed – i ddod â ni yn agosach at Dante a’i weledigaeth hynod.
Approximate running time: 180 minutes
£16 (£15)